Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2014 i'w hateb ar 2 Gorffennaf 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar elwa ar nwy anghonfensiynol yng Nghymru? OAQ(4)0169(NRF)

 

2. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru):Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan y Gweinidog i leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn yng Nghymru? OAQ(4)0174(NRF)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau deddfwriaethol sydd gan y Gweinidog ar gyfer lles anifeiliaid? OAQ(4)0173(NRF)W

 

4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithredu ei gyfrifoldebau dros reolaeth awdurdodau lleol o wastraff trefol? OAQ(4)0179(NRF)W

 

5. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch Twf Gwyrdd Cymru: Buddsoddi yn y Dyfodol? OAQ(4)0172(NRF)

 

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli polisi ynni? OAQ(4)0184(NRF)

 

7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o brisiau cyfredol y farchnad am gig eidion Cymru? OAQ(4)0181(NRF)

 

8. Gwyn Price (Islwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o effaith Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 ers ei gweithredu? OAQ(4)0175(NRF)

 

9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ(4)0170(NRF)

 

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r diwydiant bwyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0168(NRF)

 

11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru sydd ar gael i ffermwyr ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0182(NRF)

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â chyfarwyddeb yr UE o 2007 ar ddwysedd stocio? OAQ(4)0185(NRF)W

 

13. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran mynd i'r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(4)0183(NRF)

 

14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar ffracio yng Nghymru? OAQ(4)0177(NRF)W

 

15. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant casglu cocos yn aber Afon Dyfrdwy? OAQ(4)0176(NRF)

 

 

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

 

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol? OAQ(4)0417(HR)W

 

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau adfywio presennol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?  OAQ(4)0427(HR)

 

3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol? OAQ(4)0426(HR)

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Dai Amlfeddiannaeth? OAQ(4)0420(HR)

 

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo adfywio yn Nhowyn a Bae Cinmel? OAQ(4)0415(HR)

 

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd unedau tai fforddiadwy ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0428(HR)

 

7. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau adeiladu tai? OAQ(4)0418(HR)

 

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau ar gyfer adfywio y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(4)0413(HR)

 

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio trefi glan môr yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0421(HR)

 

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am ganllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol ar bwy sy'n gymwys i gael taliadau tai yn ôl disgresiwn? OAQ(4)0416(HR)

 

11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0423(HR)

 

12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo prosiectau adfywio yn Sir Benfro? OAQ(4)0411(HR)

 

13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? OAQ(4)0412(HR)

 

14. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o'r ddarpariaeth o Grantiau Addasiadau Ffisegol? OAQ(4)0425(HR)

 

15. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog amlinellu a fydd darpariaethau ynghylch ceisiadau am feysydd pentref yn cael eu cynnwys yn y Bil Cynllunio arfaethedig? OAQ(4)0419(HR)W